.png) |
|
Annwyl {{ contact.SCHOOL_NAME }},
Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026: Rydyn ni hanner ffordd yna!
Rydyn ni wedi cyrraedd hanner ffordd bellach yn Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026 ac mae degau ar filoedd o ddisgyblion a channoedd o athrawon ledled Cymru wedi cymryd rhan eisoes i leisio eu barn ar ddyfodol chwaraeon.
Diolch i bawb sydd eisoes wedi cymryd rhan. Cofiwch, gallwch barhau i gasglu lleisiau disgyblion eich ysgol tan yr 17eg o Orffennaf.
Mae’r e-bost yma’n cynnwys Dolen Arolwg Disgyblion ac Athrawon eich ysgol, a mynediad i’ch Dangosfwrdd Monitro Byw.
|
|
|
Yn yr e-bost yma
- Am yr Arolwg Chwaraeon Ysgol
- Beth sydd arnoch chi angen ei wybod
- Beth sy’n newydd ar gyfer 2026
- Sut i gymryd rhan
- Pwy ddylai gwblhau pob arolwg
- Cwestiynau cyffredin
|
|
|
1. Am yr Arolwg Chwaraeon Ysgol
Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn un o’r arolygon mwyaf yn y byd; mae’n darparu mecanwaith pwysig ar gyfer Llais y Disgybl o fewn y Cwricwlwm ar gyfer Cymru, gan gofnodi profiadau pobl ifanc o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mae pob ymateb yn helpu i greu darlun cenedlaethol manwl gywir o sut mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ymgysylltu â chwaraeon a pha gefnogaeth sydd arnynt ei hangen i fwynhau bod yn actif.
Dyma gyfle Cymru i ddeall profiadau, agweddau, rhwystrau a chymhellion disgyblion, er mwyn i ni allu cynllunio ar y cyd ar gyfer y dyfodol.
Mae dwy ran i’r arolwg:
Arolwg y Disgyblion:
Ar gyfer disgyblion 7 i 16 oed (Blynyddoedd 3 i 11). Mae’r arolwg yn edrych ar y canlynol:
- cyfranogiad mewn gweithgareddau yn yr ysgol, ar ôl ysgol ac yn y gymuned leol
- sut mae disgyblion yn mwynhau cymryd rhan a beth hoffent wneud mwy ohono
- agweddau, cymhellion a rhwystrau i gymryd rhan
Rydyn ni’n annog cymaint o ddisgyblion â phosibl i gymryd rhan: mae pob llais yn bwysig ac yn sicrhau darlun cywir o brofiadau disgyblion ledled Cymru.
Arolwg yr Athrawon:
Un arolwg i bob ysgol. Ar gyfer staff sy’n gyfrifol am gydlynu cyfleoedd i ddisgyblion fod yn actif. Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am y canlynol:
- pa weithgareddau a chyfleoedd sydd ar gael
- mynediad at gyfleusterau
- ffactorau sy’n dylanwadu ar gyfleoedd i ddisgyblion
- barn a phrofiadau staff o ran cefnogi gweithgarwch corfforol
Mae’r ymatebion yn adlewyrchu darlun ysgol gyfan, felly rydyn ni’n gofyn i staff perthnasol gwblhau’r arolwg ar y cyd.
|
|
|
2. Beth sydd arnoch chi angen ei wybod
Y Cyfle: Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn cael ei gynnal bob pedair blynedd; bydd y nesaf yn 2030.
Dyma’r unig gyfle cenedlaethol i ddisgyblion rannu eu profiadau a dylanwadu ar ddealltwriaeth am y pedair blynedd nesaf.
Yr Effaith: Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn derbyn ei hadroddiad pwrpasol ei hun, gan eich helpu i ddeall profiadau eich disgyblion a dylanwadu ar eich cynllunio lleol.
Yn ehangach, mae’r wybodaeth a geir o’r arolwg yn sail i gynllunio, buddsoddi a gwneud penderfyniadau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r arolwg hefyd yn cynhyrchu Ystadegau Swyddogol sy’n cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Y Perthnasedd: Mae’r ddau arolwg yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm ar gyfer Cymru a gallant gefnogi dysgu ac addysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles.
|
|
|
3. Beth sy’n newydd ar gyfer 2026
Arolwg 2026 yw’r fersiwn mwyaf hygyrch a difyr hyd yma, gyda gwelliannau sy’n cynnwys:
- Dyluniad dan arweiniad disgyblion
- 15 iaith yn ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg
- Naratif sain drwyddo i gyd
- Iaith a delweddaeth fwy cynhwysol
- Help ar bob tudalen
- Fersiynau Iaith Arwyddion Prydain, Makaton a Hawdd Ei Ddarllen
- Nodweddion rhyngweithiol difyr
- Strwythur arolwg newydd sy’n cofnodi gwybodaeth gyfoethocach
Mae’r diweddariadau ychwanegol yn cynnwys y canlynol:
- Targedau cyfranogiad symlach i wneud cyfranogiad yn haws i ysgolion
- Adroddiad ysgol rhyngweithiol pwrpasol sy’n cael ei ddarparu ar ôl i’r arolwg gau
- Dangosfyrddau rhyngweithiol newydd i gefnogi ysgolion, awdurdodau lleol, rhanbarthau a phartneriaid i ddefnyddio’r data ar y cyd
|
|
|
4. Sut i gymryd rhan
Mae Arolwg y Disgyblion ac Arolwg yr Athrawon yn cael eu cwblhau ar-lein. I gael mynediad i’r arolwg, defnyddiwch ddolenni penodol eich ysgol isod:
Arolwg y Disgyblion: {{ contact.SURVEY_URL }}
Arolwg yr Athrawon: {{ contact.TEACHER_SURVEY_URL }}
|
|
|
5. Pwy ddylai gymryd rhan
Arolwg y Disgyblion
- Ar gyfer disgyblion 7 i 16 oed (Blynyddoedd 3 i 11)
- Rydyn ni’n annog cymaint o ddisgyblion â phosibl i gymryd rhan
- Mae’r niferoedd gofynnol ar gyfer pob grŵp blwyddyn ar gael drwy ddangosfwrdd monitro byw eich ysgol (edrychwch isod)
- Dylai’r arolwg adlewyrchu pob disgybl - gan gynnwys y rhai sy’n actif ar hyn o bryd a’r rhai sy’n cymryd llai o ran
- Rydyn ni’n gofyn i chi fynd ati i ystyried amrywiaeth eich disgyblion ac annog cyfranogiad o bob cefndir a gallu
Arolwg yr Athrawon
- Un arolwg i gael ei gwblhau ar gyfer pob ysgol
- Rydyn ni’n gofyn i’r arolwg gael ei gwblhau ar y cyd gan staff sy’n ymwneud â chydlynu cyfleoedd ar gyfer chwaraeon, gweithgarwch corfforol neu symudiad
Dangosfwrdd Monitro Byw: {{ contact.DASHBOARD_URL }}
Mae dangosfwrdd eich ysgol yn dangos yn fyw i chi sut rydych chi’n gwneud cynnydd. Fe welwch chi’r canlynol:
- Y niferoedd gofynnol sydd eu hangen i gael adroddiad ysgol pwrpasol o ansawdd uchel
- Diweddariadau amser real ar gyfraddau cwblhau’r disgyblion
- Cynnydd tuag at gwblhau’r arolwg athrawon
- Gwybodaeth a diweddariadau ychwanegol i’ch cefnogi chi drwy gydol ffenestr yr arolwg
Mae gwirio eich dangosfwrdd yn rheolaidd yn helpu i sicrhau bod eich ysgol yn cyrraedd targedau cyfranogiad ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bethau pwysig a chefnogol.
|
|
|
6. Cwestiynau Cyffredin
Pryd mae’r dyddiad cau? Rhaid cwblhau pob arolwg erbyn 17 Gorffennaf.
Ydi disgyblion yn gallu cwblhau’r arolwg gartref? Arolwg ystafell ddosbarth yw’r arolwg, felly rhaid ei gwblhau yn yr ysgol fel bod posib monitro’r cyfranogiad yn fanwl gywir.
Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod nad yw hyn yn bosibl efallai i bob plentyn; gall disgyblion mewn amgylchiadau eithriadol, disgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11 sy’n ymdopi ag arholiadau, neu’r rhai a allai elwa o’i gwblhau’n annibynnol (e.e. disgyblion ADY) gwblhau’r arolwg gartref.
Ble allwn ni gael help?
- Mae arolwg y disgyblion yn cynnwys eiconau ‘Help’ drwyddo draw
- Gallwch gysylltu â’r tîm cefnogi ar: Help@SchoolSportSurvey2026.co.uk (ymateb o fewn 24 awr)
- Mae dolen eich Awdurdod Lleol ar gael hefyd ac yn barod i gefnogi cwblhau’r arolwg
Sut gallwn ni gefnogi’r arolwg? Rydyn ni wedi creu amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu chi i hyrwyddo’r arolwg yn eich ysgol, gan gynnwys asedau digidol, cynghorion doeth a chanllawiau ymarferol.
Gallwch gael mynediad atyn nhw yma: www.SchoolSportSurvey2026.co.uk
A oes Arolwg Hawdd ei Ddarllen? Mae arolwg 2026 wedi'i gynllunio i fod yn fwy cynhwysol nag erioed. Mae'n cynnwys amrywiaeth o nodweddion hygyrchedd, megis opsiynau mewn sawl iaith, iaith symlach, a delweddau, sain, testun a fideos Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ategol drwy gydol yr arolwg.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai rhai disgyblion fod angen cymorth ychwanegol i gymryd rhan. Er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, rydym wedi datblygu arolwg Hawdd ei Ddarllen byrrach ar gyfer disgyblion nad yw'r arolwg uchod yn diwallu eu hanghenion yn llawn.
Sylwer fod yr arolwg Hawdd ei Ddarllen yn casglu adborth llai manwl na'r arolwg y cyfeirir ato uchod. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr arolwg Hawdd ei Ddarllen, cysylltwch â ni yma: Help@schoolsportsurvey2026.co.uk
|
|
|
.png) |
|
Dear {{ contact.SCHOOL_NAME }},
2026 School Sport Survey: We’re halfway there!
We have now reached the halfway mark for the 2026 School Sport Survey and tens of thousands of pupils and hundreds of teachers across Wales have already taken part to have their say on the future of sport.
Thank you to everyone who has taken part already. Remember, you can continue to capture the voices of pupils in your school until the 17th of July.
This email contains your school’s Pupil and Teacher Survey Link, and access to your Live Monitoring Dashboard.
|
|
|
In this email
- About the School Sport Survey
- What you need to know
- What’s new for 2026
- How to take part
- Who should complete each survey
- Frequently asked questions
|
|
|
1. About the School Sport Survey
The School Sport Survey is one of the largest surveys in the world; it provides an important mechanism for Pupil Voice within the Curriculum for Wales, capturing young people’s experiences of sport and physical activity.
Every response helps build an accurate national picture of how children and young people in Wales engage with sport and what support they need to enjoy being active.
This is Wales’ opportunity to understand pupils’ experiences, attitudes, barriers and motivations, so we can collectively plan for the future.
The survey has two parts:
Pupil Survey:
For pupils aged 7-16 (Years 3-11). The survey explores:
- participation in school, after‑school and local community activities
- how pupils enjoy participating and what they would like to do more of
- attitudes, motivations, and barriers to taking part
We encourage as many pupils as possible to participate: every voice matters and ensures a true picture of pupils’ experiences across Wales.
Teacher Survey:
One survey per school. For staff responsible for coordinating opportunities for pupils to be active. The survey gathers insight on:
- what activities and opportunities are available
- access to facilities
- factors that influence opportunities for pupils
- staff views and experiences in supporting physical activity
Responses reflect a whole‑school picture, so we ask relevant staff to complete the survey collaboratively.
|
|
|
2. What you need to know
The Opportunity: The School Sport Survey runs every four years; the next will be in 2030.
This is the only national opportunity for pupils to share their experiences and influence understanding for the next four years.
The Impact: Each school that takes part will receive its own tailored report, helping you understand your pupils’ experiences and shape your local planning.
More widely, insight gained from the survey informs planning, investment and decision‑making at local, regional and national levels.
The survey also produces Official Statistics that support Welsh Government priorities, including the Well-being of Future Generations Act.
The Relevance: Both surveys align with the Curriculum for Wales and can support learning and teaching within the health and wellbeing area of learning and experience.
|
|
|
3. What’s new for 2026
The 2026 survey is the most accessible and engaging version to date, with improvements including:
- Pupil led design
- 15 languages plus Welsh and English
- Audio narration throughout
- More inclusive language and imagery
- Help on every page
- British Sign Language, Makaton and Easy Read versions
- Interactive, engaging features
- A new survey structure capturing richer insight
Additional updates include:
- Simpler participation targets to make involvement easier for schools
- Bespoke, interactive school report provided after the survey closes
- New interactive dashboards to support schools, local authorities, regions and partners to use the data collaboratively
|
|
|
4. How to take part
Both the Pupil and Teacher Surveys are completed online. To access the survey, use your school’s bespoke links below:
Pupil Survey: {{ contact.SURVEY_URL }}
Teacher Survey: {{ contact.TEACHER_SURVEY_URL }}
|
|
|
5. Who should take part
Pupil Survey
- For pupils aged 7–16 (Years 3–11)
- We encourage as many pupils as possible to take part
- Minimum numbers required for each year group are available via your school’s live monitoring dashboard (see below)
- The survey should reflect all pupils - including those who are currently active and those less engaged
- We ask that you actively consider the diversity of your pupils and encourage participation from all backgrounds and abilities
Teacher Survey
- One survey to be completed per school
- We ask that the survey is collaboratively completed by staff involved in coordinating opportunities for sport, physical activity or movement
Live Monitoring Dashboard: {{ contact.DASHBOARD_URL }}
Your school’s dashboard gives you live visibility of how you’re progressing. You’ll find:
- Minimum numbers required to achieve a quality, bespoke school report
- Real‑time updates on pupil completions
- Progress towards completion of teacher survey
- Additional information and updates to support you throughout the survey window
Regularly checking your dashboard helps ensure your school meets participation targets and stays up to date with important, supporting information.
|
|
|
6. Frequently Asked Questions
When is the deadline? All surveys must be completed by 17 July.
Can pupils complete the survey at home? The survey is a classroom survey, and so must be completed in school so participation can be monitored accurately.
However, we recognises this may not be possible for every child; pupils in extenuating circumstances, pupils in Year 10 and 11 balancing exams, or those who may benefit from completing it independently (e.g. ALN pupils) may complete the survey at home.
Where can we get help?
- The pupil survey includes ‘Help’ icons throughout
- You can contact the support team at: help@schoolsportsurvey2026.co.uk (response within 24 hours)
- Your Local Authority link is also available and ready to support completion
How can we support the survey? We’ve created a range of resources to help you promote the survey in your school, including digital assets, top tips and practical guides.
You can access them here: www.SchoolSportSurvey2026.co.uk
Is there an Easy Read Survey? The 2026 survey has been designed to be more inclusive than ever; it includes a range of accessibility features, such as multiple language options, simplified language, and supporting imagery, audio, text, and BSL videos throughout.
We recognise, however, that some pupils may require additional support to participate. To ensure their voices are heard, we have developed a shorter Easy Read survey for pupils whose needs are not fully met by the survey linked above.
Please note that the Easy Read survey collects less detailed feedback than the linked survey. If you would like more information about the Easy Read survey, please contact us here: Help@schoolsportsurvey2026.co.uk
If you do not wish to receive further emails about the School Sport Survey, please reply to this email or contact help@schoolsportsurvey2026.co.uk to opt out.
You have received this email in relation to the 2026 School Sport Survey, coordinated by Industryline Research. Industryline Research is an accredited company partner of the Market Research Society and specialises in public sector research. Your contact details are being used solely to support the delivery of this national research study.
For more information on how your data is used, please visit: www.schoolsportsurvey2026.co.uk
|
|